Gwasanaethau Anabledd

Gwasanaethau Anabledd

Sefydlwyd Gwasanaethau Anabledd Cyfal yn 2007 gan Gwenllian a Nia Williams. Er mai cwmni newydd ar y farchnad yw Cyfal, mae’n darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn.

Mae Cyfal yn cynnig ei wasanaethau ymhob rhan o Gymru a Lloegr.

Mae Cyfal yn arbenigo mewn cynhyrchu adroddiadau mynediad gan roi manylion sut i wneud eich adeilad neu wasanaethau yn addas a hygyrch i bobl anabl. Mae gan y ddwy bartner, gyda’i gilydd, dros 60 o flynyddoedd o brofiad o anabledd.

Mae Gwenllian Williams yn archwiliwr mynediad profiadol gyda hanes hir a phersonol o fod yn anabl; golyga hyn ei bod, oherwydd ei phrofiad personol a’i harbenigedd proffesiynol, yn gallu argymell newidiadau hanfodol.

What can Disability Services do for you?

Dewch i gyfarfod y tîm!

Gwenllian Williams sy’n gyfrifol am hyfforddiant Cyfal. Cafodd Gwenllian brofiad o fod yn gaeth i gadair olwyn ar ôl llawdriniaeth aflwyddiannus i gael clun newydd. Nia Williams sy’n gyfrifol am weinyddu Gwasanaethau Anabledd Cyfal o ddydd i ddydd.

Sut y dechreuodd Gwasanaethau Anabledd Cyfal

Pan oedd Gwenllian yn aros mewn gwesty yn Llundain yn Awst 2007, syrthiodd mewn cawod a oedd i fod wedi ei haddasu’n arbennig ar gyfer pobl anabl ac anafodd ei hysgwydd.

‘Roedd hon yn sefyllfa y gellid yn hawdd fod wedi ei hosgoi; sylweddolodd fod llu o adeiladau busnes eraill hefyd yn ddiffygiol iawn o ran eu darpariaeth ar gyfer pobl anabl.

Helpu busnesau i agor eu drysau i fwy o bobl

Wrth ymweld a lleoedd cyhoeddus wedi hynny a sylwi’n ofalus arnynt, penderfynodd y gallai gynorthwyo pobl i wneud eu safleoedd busnes neu eu mannau cyhoeddus yn fwy hygyrch ar gyfer eu cwsmeriaid.

Profiad

Mae Gwenllian wedi graddio fel nyrs gyda thystysgrif ôl-radd mewn nyrsio orthopædic.  Golyga hyn ei bod wedi cael profiad o anabledd ar raddfa bersonol a phroffesiynol hefyd.

Mae ganddi hefyd ddiploma mewn cynghori sy’n golygu fod ganddi ddealltwriaeth dda o sut i fynd ati i ddysgu pobl i edrych i mewn i agweddau personol.