
Gwasanaethau Anabledd & Archwiliad Mynediad
Mae Cyfal yn darparu gwasanaeth anabledd dwyieithog wedi’i lunio i helpu busnesau, mudiadau ac unigolion sydd am i’w hamgylchedd neu wasanaethau fod ar gael yn llawn i bawb.
Rydym yn cynnig Archwiliadau Mynediad a Hyfforddiant Ymwybyddiaeth addas i helpu busnesau i gyrraedd y nod.
Archwiliadau Mynediad
Mae Gwasanaethau Anabledd Cyfal yn cynnig y gwasanaethau canlynol i fusnesau a mudiadau i helpu sicrhau bod eu busnesau ar gael i bawb.
** Asesu eich busnes ar gyfer pob cyfraith sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd.
Asesiad proffesiynol o’r adeiladau, gwasanaethau a pherfformiad staff.
** Eglurhad anffurfiol o’r adroddiad.
Adroddiad ysgrifenedig llawn wedi ei flaenoriaethu, gan gynnig atebion i unrhyw rwystrau i fynediad. Adroddiadau ar gael yn Saesneg, Cymraeg, mewn print bras neu ar CD/ tâp awdio.
** Hyfforddiant Staff
Hyfforddiant ar y safle i staff a rheolwyr sy’n delio â’r cwsmer, rhoi cyfarwyddiadau ynghylch anghenion y Ddeddf Anabledd sy’n addas i’r swydd.
** Hyfforddiant i gynnwys gwasanaethau effeithiol ac addas i anghenion defnyddwpobl anabl y gwasanaeth.
Asesiad cyfrinachol o agweddau staff os mynnir.
Os yw’ch busnes angen gwybod mwy am fynediad i’r anabl, neu archwiliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni.